Tudalen:Rhigymau'r Ffordd Fawr.pdf/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A mwyach lleddf oedd clychau'r môr,
A lleddf oedd pibau'r awel.

Eisteddais orig ar y graig
Lle torrai'r llanw'n flodau,
Heb wybod mai fy nghalon i
Roes gywair lleddf i'r nodau.
Gwn heddiw pam y trof o hyd
Yn weddw fab i'r marian;—
Mae sain yn eisiau yn y côr
Lle cân y clychau arian.