Tudalen:Rhigymau'r Ffordd Fawr.pdf/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'r gawod yn gwreichionni ar y dail;
Yntau'r aderyn du ar frig y pren
Yn chwiban croeso'r maes i wenau'r haul,
A'r mil diferion yn y goedwig werdd
Obry'n cyfeilio i'r ddihafal gerdd.