Tudalen:Rhigymau'r Ffordd Fawr.pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chafodd gyrraedd porth hen dloty'r fro;
Fe'i claddwyd yn yr ôd yn nyfnder nos,
A'r lloer a'r sêr oedd torf ei angladd o;
Ac ni bu coffa'i wall na'i fryntni chwaith;—
Daeth yntau'n ddigon gwyn i ben ei daith!