Tudalen:Rhigymau'r Ffordd Fawr.pdf/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y FILLTIR OLAF.

Haul a chawod, glesni a chwmwl,
Milltir wastad, milltir serth;
Wedyn henaint a'i benllwydni,
Fel yr ôd ar frig y berth.
Dyna stori fer ein gyrfa
Cyn i'r niwl orchuddio'r llawr,
Cyn yr elom ac ni byddom
Mwyach ar yr heol fawr.

Gwn im golli'r ffordd a chrwydro
Rhos a mynydd lawer gwaith.
Ond a ddrysodd hen bererin
Na bu rhywun wyddai'r daith?
Bellach trof i'r glyn lle collir
Camre'r call a chamre'r ffôl;
Ac ni ddaw na châr nac estron
O'r dieithrwch mawr yn ol.

Heddiw'n llesg, tan faich blynyddoedd,
Pwysaf ar yr olaf faen;
Troes y ffordd yn niwl diheol,
Ac ni welaf gam ymlaen.
Dyma'r fan y methais ganlyn
Un a gerais i erioed.
Mae ei lais? Nis clywaf mwyach,
Ac ni welaf ôl ei droed.