Gwirwyd y dudalen hon
6. A ddylem ni weddio am ddim arall?
A. Dylem weddio am ras i'n gwneud yn blant da, ac am bob peth fo arnom eisiau.
G. A ydyw yn hawdd gan Dduw i roi i ni y pethi a ofynom?
A. Ydyw i bawb, ac heb ddannod.
G. Yn enw pwy y dylem weddio?
A. Yn enw Iesu Grist.
G. Pwy sy'n gweddio?
A. Pob duwiol a weddia.
DOSPARTH VII
G. A fydd dydd barn?
A. Bydd.
G. Pa bryd y bydd dydd barn?
A. Yn niwedd y byd.
G. Pwy fydd y barnwr?
A. Iesu Grist.
G. Pwy gaiff eu barnu?
A. Pawb.