Gwirwyd y dudalen hon
CATECISM O ENWAU
G. Pwy oedd Adda?
A. Y dyn cyntaf, a'n tad ni oll.
G. Pwy oedd Efa?
A. Mam pob dyn byw.
G. Pwy oedd y merthyr cyntaf?
A. Abel.
G. Pwy laddodd ei frawd?
A. Cain.
G. Pwy fu fyw hwyaf?
A. Methusalem.
G. Pwy gadwyd yn yr Arch pan foddwyd y byd?
A. Noa, a'i wraig, ei dri mab, Sem, Cam, Iapheth, a'u tair gwragedd.
G. Pwy oedd y dyn ffyddlonaf?
A. Abraham.