Gwirwyd y dudalen hon
G. Beth y mae'r bara yn arwyddo?
A. Corph Crist.
G. Beth y mae'r gwin yn arwyddo?
A. Gwaed Crist.
G. Pwy ydyw'r angylion?
A. Yaprydion da.
G. Pwy ydyw y cythreuliaid?
A. Angylion drwg.
G. Pwy ydyw y diafol?
A. Penaeth y cythreuliaid.
G. Beth yw gorchwyl angylion da?
A. Addoli Duw, a gweini i'r saint
G. Beth yw gwaith y cythreuliaid?
A. Pechu, a themtio dynion.
G. Beth ddaw o honynt yn y diwedd?
A. Fe'u bwrir oll i uffern.
G. Pa bryd y daeth Crist i'r byd?
A. Yn ghyflawnder yr amser.
G. Pwy a'i bedyddiodd ef?