Gwirwyd y dudalen hon
G. A ydyw Duw yn gyfiawn?
A. Ydyw ; yn gyfiawn a sanctaidd.
G. A ydyw Duw yn ddigyfnewid?
A. Ydyw, yr un fath bob amser.
G. Ai Duw biau bob peth?
A. Ie, yn y nefoedd a'r ddaear.
G. A ydyw Duw yn dda?
A. Ydyw; da yw Duw i bawb.
DOSPARTH II
G. Ai Duw greodd bob peth?
A. Ie.
G. Beth ydyw creu?
A. Gwneud peth o ddim.
G. Ai o ddim y gwnaeth Duw bob peth?
A. Ie
G. A all neb arall wneud peth o ddim?
A. Na all