Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

alpha. Gronynnau mân yw'r rhai hyn, sef cnewyllyn atomau'r elfen helium, yn ymsaethu allan o gnewyllyn yr atomau radium gyda'r cyflymder o 10,000 o filltiroedd mewn eiliad. Nid rhyfedd gan hynny fod i radium ei briodoleddau hynod pan feddylir am yr hyn sydd yn dylifo'n barhaus ac mor egnïol o'i grombil.

Ond sylwer ar ganlyniadau hyn. Ar ôl colli o'i gyfansoddiad delpyn cymharol drwm fel y gronyn alpha, nid yw'r gweddill yn ddigon mawr i fod yn atom radium mwyach. Yn wir, y mae wedi ei drawsnewid ei hun yn sylwedd hollol wahanol, sef y nwy radon. Ac nid yw radon yn parhau fel y mae; ffrwydra yntau hefyd gan ei drawsnewid ei hun yn elfen a elwir Radium A. Newidia hwnnw wedyn, yn ei dro, i Radium B, ac felly ymlaen, o ris i ris, hyd nes y cyrhaeddir Radium G, ac nid yw hwnnw ddim amgen na'r elfen adnabyddus Plwm.

Golyga hyn chwyldroad yn ein syniadau am fater. Nid yw'r atomau mater (o leiaf rhai ohonynt) yn dragwyddol ac anghyfnewidiol, fel y credid hyd yn ddiweddar. Wele drawsnewidiad yr elfennau wedi dod— radium yn graddol droi yn blwm. Gwyddom hefyd fod radium ei hun yn cael ei gynhyrchu gan sylwedd sydd yn gymharol gyffredin, sef uranium, atom yr hwn yw'r mwyaf a thrymaf sydd i'w gael ar y ddaear.

Gan gofio mai 207 yw pwysau atom plwm, ac mai 197 yw pwysau atom aur, dychmygwn yn awr glywed y darllenydd yn gofyn yr hen gwestiwn oedd o ddiddordeb mawr i'r hen alcemistiaid gynt, sef, oni ellir trawsnewid plwm yn aur? Neu yn iaith y dyddiau hyn, oni ellir cnocio deg proton allan o gnewyllyn atom plwm