Tudalen:Rhyfeddodau'r Cread.pdf/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XI

Y RADDFA GERDDOROL

Fe ŵyr y darllenydd yn dda fod pob cân, pob darn o gerddoriaeth, melodi a chynghanedd, wedi eu sefydlu a'u hadeiladu ar ris neu raddfa gerddorol. Meddylier am y llinell gyntaf yn yr alaw, "Hen wlad fy nhadau." O'i newid mewn nodyn neu ddau gellir ei hysgrifennu fel hyn:

{:d |n :r :d |s :f :n |d' :d' :l .t |d' ||

Gwelir bod yma wyth nodyn gwahanol, sef d, r, m, f, s, l, t, d'. Ffurfia'r rhestr hon yr hyn a elwir y raddfa neu y ris cerddorol a'r raddfa hon a ddefnyddir y dyddiau hyn gan gerddorion ym mhob gwlad wâr. Gelwir hi y raddfa ddiatonig.

Gŵyr pob plentyn ysgol fod y nodau hyn yn dilyn ei gilydd o ran cywair mewn modd arbennig, ac fe all lamu o doh i soh, neu o lah i re heb unrhyw betruso nac anhawster.

Yn araf iawn y daethpwyd i fabwysiadu'r raddfa hon yn ei ffurf bresennol. Y mae gwahaniaeth pwysig rhyngddi a'r grisiau cerdd a ddefnyddid gan yr hen Roegwyr yn amser Pythagoras yn y chweched ganrif cyn Crist, neu gan Ambrose, Esgob Milan (340—397 a.d.), neu gan y Pab Gregori Fawr (540—604 a.d.), neu gan Palestrina yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Dyna'r rheswm fod y côr-ganeuon gregoraidd a cherddoriaeth Palestrina yn taro'n ddieithr i'n clustiau ni y dyddiau hyn.