rhedent ar hyd-ddi, ac wrth lithro neidient iddi a gafaelent ynddi, a siglo mawr wedyn gerfydd eu dwylo. Bwrient draed dros ben gan afael ynddi â'u dwy law, a'u pennau a'u traed rhwng eu breichiau ymhob rhyw fodd. Ni bu'r fath siglo erioed â'r siglo hwnnw.
"Feddylies i rioed," ebe Dic, "y base gennon ni ddigon o boeri i neud un mor hir. Choelia'r plant byth, wyddost, os awn ni'n ôl, ein bod ni wedi medru gneud siglen efo poeri, ond dene rywbeth newydd i'w ddysgu iddyn nhw."
"'Does dim peryg iddyn nhw goelio," ebe Moses, "ond feddylies inne ddim chwaith y base ni'n medru ei gneud hi heb ofyn am fenthyg tipyn o boeri gan yr hen ddyn. Ond, ran hynny, 'roedd fy nannedd i'n rhedeg o hyd wrth feddwl am y siglo fydde ene ar ôl ei gneud hi. Ond pam yr oedd hi mor ysgafn dywed,—fel cadwen o beli eira?
Wyt ti ddim yn cofio'r dyn yn 'sbonio'r peth inni?" ebe Dic, ond dydwi ddim yn rhyw gofio'n dda beth oedd o."
Ar hyn dyma'r dyn heibio, ac yn dechreu siglo ar y siglen fel hogyn bach, yn ôl ac ymlaen, hanner milltir ar dro. Daeth oddiarni yn y man, ac eisteddodd i orffwys. Ac am ryw reswm edrychai'n brudd a siomedig.
"Sut y mae'r siglen mor ysgafn a hithe'n gerryg, Rhys Llwyd?" ebe Dic wrtho.
"Mi esbonies iti o'r blaen," ebe'r dyn yn swta.