Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae gen ti eisio tri chant ar ddeg eto, felly," ebe Shonto, os na feder un ohonon ni daro ar gynllun i gael pry genwair i ddawnsio."

Rydwi'n mynd i ofni mwy o hyd aros yma fy hun," ebe'r dyn, "a fedrwn i ddim cadw'r bechgyn yma am byth. Mi awn ar fy llw, hefyd, fod rhwfun yn byw ar y lleuad rwan, ond fi. 'Roedd yr ochenaid a glywes i yn yr agen yn debyg iawn i ochenaid y Llotyn Mawr pan fydd o yn ei ddiod. A gwae fi os ydi o yma."

"Efo ni 'roedd o pan gychwynnes i, beth bynnag," ebe Shonto, a mynd o ddrwg i waeth. Fedrwn ni neud dim ohono fo, ac y mae ar bawb ei ofn o."

"'Does dim llawer o obaith, felly," ebe'r dyn. "Mae gen i ofn nad oes," ebe Shonto, ŵyr neb ddim be all ddigwydd."

Yna bu distawrwydd hir.

Er mwyn i chwi wybod, un o'r Tylwyth Teg eu hunain oedd y Llotyn Mawr, a chafodd yr enw hwn wedi iddo fynd yn boen i bawb. Ni bu'n rhyw ffefryn erioed,—yr oedd arno bob amser eisiau ei ffordd ei hun. Wedi tyfu'n llanc âi'n fwy annioddefol bob dydd. A digwyddodd peth un diwrnod a'i gwnaeth yn fwrn ar bawb.

Wedi bod yn rhedegfeydd gwencïod yr ydoedd. Gwencïod yw eu ceffylau hwy, a'r Tylwyth Teg yn eu marchogaeth oedd y rhedegfeydd. Yr oedd y Llotyn yn rhedeg, a digwyddodd ennill y drydedd wobr. Daeth i mewn yn llanc i gyd,