Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/115

Gwirwyd y dudalen hon

tipyn o lonydd gan y Llotyn wedyn, canys ni allai feddwi nes i'r tyllau a wnaed gan y pigau drain gau. Ymhen y mis, ar noson leuad lawn, pwy a ddaeth i'w mysg ond y tywysog. Ei stori oedd ei fod wedi ei chwythu gan ffrwydriad y Llotyn i'r lleuad, ac wedi dyfod yn ei ôl ar belydryn o oleuni, ond na welodd ddim byth oddiwrth ei faich drain,—bod hwnnw wedi ei chwalu ar draws ac ar led y greadigaeth i bobman, a'i fod yn ofni mai anodd fyddai cael lle yn unman bellach heb bigau drain ar chwâl ynddo.

Eithr pan oedd ar ddechreu ei stori pwy a ddaeth yno, fel tarw gwyllt, am ei ladd, ond y Llotyn Mawr. Ac nid oedd dim iddo ei wneuthur ond ffoi'n ôl i'r lleuad am ei fywyd. Ei arogli a wnaeth y Llotyn, canys yr oedd aroglau'r caws llyffaint arno o hyd. Nid oedd obaith, mwy, iddo fedru cartrefu ar y ddaear heb i'r Llotyn ei arogli a'i erlid, os na chaffai ymadael â'r aroglau caws llyffaint, canys ar wynt y cludir aroglau. Nid oedd ond dau beth a allai ddifa'r aroglau,— aros mewn gwlad rew am fil o flynyddoedd (peth da iawn yw rhew am symud aroglau), neu gael ei rwbio drosto â chwys pryf genwair. Yr oedd y ddau amod yn anodd, canys annifyr yw bod mewn gwlad rew am fil o flynyddoedd, a phrin iawn, iawn yw chwys pryf genwair. Ni all pryf genwair chwysu ond pan fyddo'n dawnsio. Ac ni welodd neb erioed yr un yn dawnsio. Y mae'n rhaid cael offeryn cerdd na chrewyd mohono