Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/124

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phob un â'i ên yn ei ddwylo. Ac yn ymyl, dan gysgod craig, hanner gorweddai dyn y lleuad, yn gwneuthur yr un peth. Heb yn wybod iddynt darfu dylanwad yr afalau lleuad arnynt yn llwyr, fel yr awgrymodd dyn y lleuad dro'n ôl.

Fe'i teimlodd Moses ei hun yn boeth arswydus cyn bo hir, yn enwedig ei goesau. Edrychodd arnynt, ac er ei ddychryn gwelodd eu bod wedi toddi'n llyn. Edrychodd ar Ddic, a gwelodd fod Dic yntau'n prysur doddi. Toddasai ef fwy na Moses. Nid oedd ond ei ben a'i goesau yn y golwg uwchlaw'r llymaid. Yr oedd y gweddill ohono'n llyn, a deallodd Moses eu bod ill dau, yn y gwres ofnadwy hwnnw, yn toddi, fel y gwelsant ddyn eira'n toddi ar wyneb y ddaear. Dyna'r olygfa fwyaf digalon sy'n bod, yw dyn eira'n toddi, a'r olygfa sy'n dangos mwyaf o ddewrder hefyd. Er i'w draed a'i goesau doddi'n llyn, a'i gorff wedyn, deil y dyn eira i wenu â'i bibell yn ei enau, a'i het ar ochr ei ben, fel pe na buasai dim o'i le yn digwydd. A phan dawdd ei ben o'r diwedd tawdd dan wenu ac ysmygu. Os ydych am ddysgu'n gynnar ar eich hoes sut i herio bywyd yn ei holl chwerwder pan ddeloch yn ddynion, gwyliwch ddyn eira'n meirioli. Teimlo y byddwn ofid mawr mai toddi'n ddwfr yw diwedd creaduriaid mor ddewr â dynion eira. Nid oedd Dic a Moses yn wynebu eu meiriol mor ddewr â hyn, yn enwedig Moses. Golwg go anobeithiol oedd ar eu hwynebau fel y toddent bob yn dipyn.