Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y man nid oedd dim heb doddi ond corunau eu pennau, a nofiai'r rhai hynny yn ôl a blaen ar wyneb y llyn, fel ymenyn ar wyneb llaeth. O'r diwedd toddasant yn llwyr, ac nid oedd yno mwy ond dau lyn yn disgleirio yn yr haul lle yr oedd dau fachgen gynt. Toddasai eu cnawd, a'u hesgyrn, a'u gwallt, a'u dillad, a phopeth.

Eithr er toddi ohonynt ni pheidiasant â gwybod amdanynt eu hunain, ac am ei gilydd. Gwyddai'r llyn oedd yn weddillion Moses mai Dic oedd enw'r llyn yn ei ymyl,—dyna'r tro cyntaf yn hanes y byd i lyn gael ei alw yn "Dic." A gwyddai'r llyn oedd yn weddillion Dic mai Moses oedd enw'r llyn yn ei ymyl yntau,—a dyna'r tro cyntaf yn hanes y byd, hefyd, i lyn gael ei alw'n Moses"; ac i lynnoedd ac i lynnoedd wybod amdanynt eu hunain eu bod yn fyw. Gwyddent bopeth a wyddent o'r blaen, er mai llynnoedd oeddynt.

Wedi eu toddi'n llynnoedd, dechreuodd yr haul sychu'r llynnoedd fel y sych lynnoedd y ddaear, a chodasant yn araf, yn darth i'r gwagle uwchben. i'r llynnoedd ar y lleuad yn llai—lai o hyd, a hwythau'n esgyn o dipyn i beth yn darth. Fe'u teimlent eu hunain yn codi, a chodi, bob yn dipyn, nes i'r llynnoedd a fu gynt yn Foses a Dic sychu'n llwyr. 'Roedd y teimlad o godi yn darth o'r llyn, ebe Dic, y teimlad tebycaf a fu erioed i'ch gwaith yn eich teimlo'ch hunain yn chwyddo o dan ganmoliaeth. Gwyliwch rhag gormod o ganmoliaeth rhag ofn eich troi chwithau'n