Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darth. Yr oeddynt bellach yn hofran yn y gwagle yn dameidiau o darth, ac yn esgyn, esgyn o hyd, fel mwg o simnai ar ddiwrnod tawel, neu darth yn codi oddiar fynydd pan gyfyd yr haul. A thrwy'r cwbl gwyddent yn iawn mai Dic a Moses oeddynt. Wrth esgyn, ac esgyn, fe'u teimlent eu hunain yn oeri, ac wrth oeri yn tewychu'n gymylau. A dyna lle yr oeddynt, bellach, yn ddau gwmwl yn esgyn, ac esgyn o hyd.

Ceisiodd Dic siarad â Moses, ond yr oedd mewn dyryswch newydd,—ni wyddai pa ran ohono'i hun oedd ei ben a pha ran oedd ei draed. Fe deimlai Moses, yntau, awydd mawr i siarad â Dic, ond yr oedd yntau yn yr un anhawster yn union.

Esgyn, ac esgyn, yr oeddynt o hyd, yn ddau gwmwl yn y gwagle, a rhyfedd oedd gweled dau gwmwl uwchben y lleuad gan fod yr awyr uwch ei phen hi bob amser mor rhyfeddol o glir, os priodol galw lle heb ddim awyr ynddo yn awyr." O'r diwedd, wedi esgyn ac esgyn, ymhell o gyrraedd y lleuad, deuent tua'r lle na symudent ynddo, nac yn ôl nac ymlaen, pan oeddynt ar eu ffordd i'r lleuad. Carent ofyn i'w gilydd i ble yr oeddynt yn mynd tybed, a gobeithient yn erbyn gobaith mai tua'r ddaear yn ôl yr oedd eu taith. sydyn, teimlent ryw ysgydwad ar eu hymylon, fel awel ysgafn, a phwy a welent yno, wedi teithio fel tân gwyllt ar eu holau, ond dyn y lleuad. A dyna'r adeg, wrth weld y dyn yn eu hymyl, y daethant i wybod ymhle yr oedd eu llygaid.