Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/128

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Estynnodd y dyn ei freichiau a'i fantell, a dechreuodd wthio Moses ychydig ymlaen, gan ei fod yn symud yn rhy araf ganddo. Yna. gwnaeth yr un peth â Dic. Y rheswm iddo estyn ei fantell yn ogystal â'i freichiau oedd rhag gadael dim o'r bechgyn ar ôl. Canys anodd iawn yw symud cwmwl heb adael dim ohono ar ôl.

Dechreuasant symud wedyn, a hynny'n gyson i'r un cyfeiriad, a daethant i wybod cyn bo hir iawn mai tua'r ddaear yr aent. Fel yr enillai tyniad y ddaear arnynt, ac fel y gwanhâi tyniad y lleuad, cyflyment a chyflyment. O'r diwedd fe'u gwelsant eu hunain yn ddau gwmwl ymysg cymylau eraill, yn hofran uwchben y ddaear, A dyn y lleuad oedd wedi dyfod i'w hebrwng, yn ymguddio o'r tu ôl iddynt rhag i bobl y ddaear ei weld.

Buont yn hofran felly am ychydig uwchben y ddaear. Bob yn dipyn fe'u teimlent eu hunain. yn troi'n ddiferion mawr. Ac ni allent mwyach eu dal eu hunain wrth ei gilydd. Disgynnent i lawr tua'r ddaear yn ddiferion glaw. O drugaredd nid oedd yn noson stormus, ac am hynny gallasant ddisgyn heb fynd ormod ar chwâl.

Wel, Dic annwyl," ebe Moses, ryden ni'n troi'n law cyn wired â'r pader." Ond ni chlybu Dic ond sï fel si glaw'n llithro trwy'r awyr. A throi'n law a wnaethant, a'u glawio eu hunain ar y ddaear. O'r diwedd yr oeddynt wedi eu