Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glawio'u hunain i gyd, yn ddiferion, tros ddwy ran o'r wlad. Wedi gorffen eu glawio'u hunain, dechreuodd y diferion redeg yn fân ffosydd at ei gilydd, nes bod y ddau, unwaith yn rhagor, yn ddau lyn, ond yn llynnoedd ar wyneb y ddaear, ac nid yn y lleuad.

Wedi bod felly am dipyn, fe'u teimlent eu hunain yn cael eu rholio'n ôl a blaen, a deallasant mai'r gwynt a chwythai arnynt gan eu rholio a'u pobi. Yr oedd wedi codi'n awel er pan ddisgynnodd y ddau ar wyneb y ddaear. Nos ydoedd, ac yr oedd yn oer echryslon, ond yn gannaid oleu leuad. O dipyn i beth fe welent ryw bethau'n gwibio fel sêr yn ôl a blaen yn yr awyr o'u hamgylch, a deallasant yn union mai Shonto'r Coed a'i deulu oedd yn arwain y gwynt wrth ei waith. A gwelsant, ebe Dic, nad oedd stori Shonto am ei ddylanwad ei hun ar y gwynt a phethau eraill, gymaint allan o'i lle, wedi'r cwbl. Ac fe'u teimlent eu hunain yn caledu, a phob yn dipyn yn cymryd ffurf newydd.

"Rargien fawr, ryden ni'n rhewi, a 'does yma ddim fale lleuad chwaith i'n rhwystro ni," ebe Moses.

A rhewi yr oeddynt, neu'n fwy cywir, caledu'n ôl, a chael eu hail bobi'n fechgyn. Rholiai'r gwynt hwy, dan arweiniad Shonto a'i deulu, a chaledent fel y rholient, nes dyfod bob yn dipyn yn eu holau'n fechgyn. Neidiasant ar eu traed, a rhedasant at ei gilydd,—