Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fachgen wedi eu swyno gymaint fel y methent â symud na bys na bawd,—

Dolurus fy nghalon, a gwelw fy mryd,— Ple 'rwyt ti f'anwylyd yn aros cyhyd?

yn union fel y clywsai Moses hi yn ei freuddwyd yn y lleuad. Pan ddaeth hi i'r geiriau,—

O! tyred yn ôl, O! tyred yn ôl, Pe gwyddwn lle 'rydwyt ehedwn i'th nól,

fe'i hanghofiodd Moses ei hun yn lân. Rhedodd ymlaen tua'r llwyfan, a gwaeddodd,—" Wel, dyma fi'n dwad." Edrychodd yr eneth fach tuagato, gwelodd ef, gwyrodd ei phen yn sydyn, gwridodd at ei chlustiau, ac ni allai ganu mwyach.

Meddyliodd rhan fwyaf y gynulleidfa mai ffwlbri bachgen direidus oedd gwaith Moses yn gweiddi felly, a dechreuasant chwerthin. Cyn iddynt ddyfod atynt eu hunain, a gwybod yn wahanol, rhedodd Dic at Foses, ac eb ef wrtho'n wyllt,—

"Tyrd allan odd'ma, a phaid â dangos i bawb dy fod ti wedi bod yn byw yn y lleuad."

Ac allan â hwy am eu bywyd.

Ryw fin nos, wedi iddynt fod gartref ers tro, a'r stori amdanynt yn mynd ar goll wedi ei hanghofio, aeth y ddau am dro tua'r Tyno. Pan oeddynt yn siarad yn ddifyr am hyn a'r llall, â'u cefnau ar y Wal Newydd, dyna chwerthin tros y wlad yn eu hymyl. Troesant eu hwynebau