Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tuagato, a phwy oedd yno'n dawnsio, gan wenu arnynt o glust i glust, ond hen ddyn y lleuad.

"Helo, Rhys Llwyd," ebe Dic, "ers pryd yr ydech chi wedi dwad yma?"

"'Des i ddim yn f'ôl ar ôl y'ch hebrwng chi," eb ef. "Mi redes i edrych am Shonto y nosweth honno, ac yno rydwi byth."

"Beth am y Llotyn Mawr?" ebe Moses.

"Does dim sôn amdano fo," ebe dyn y lleuad. "'Roedd o wedi mynd cyn imi gyrraedd yno'r nosweth honno. Mae'n ymddangos mai fel hyn y bu hi,—'Roedd o wedi bod am dros wythnos heb neud dim ond yfed gwynt. O'r diwedd mi feddwodd ac mi syrthiodd, ond dal i yfed yr oedd felly, nes iddo chwyddo tuhwnt i bob maint, ac yn fwy nag y gwelodd neb erioed o. A dene lle 'roedd o yn gorwedd ar gwr y llwyn. Ac felly y bu am ddyddie heb wybod dim oddiwrtho'i hun. 'Roedd rhialtwch mawr y nosweth leuad lawn wedyn, a phawb yn canu a dawnsio. Pan ddaeth y lleuad yn union uwchben galwodd rhywun am floedd o groeso iddi. A dene floeddio a neidio na chlywyd erioed eu tebyg. Pan oeddynt ar ganol bloeddio dene ffrwydriad o gwr y llwyn, a grynodd y ddaear, ac a foddodd y sŵn bloeddio. Rhedodd pawb yno mewn braw, ond nid oedd sôn am y Llotyn Mawr. 'Roedd o wedi ffrwydro'n dipie mân, a'r darne, medde Shonto, wedi chwalu dros y byd i gyd. A 'chlywyd byth ddim amdano fo. Gobaith mawr teulu Shonto ydi y deuir o