Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/133

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd i'r darne, a'u claddu, cyn iddyn nhw ddechre gwenwyno'r awyr i blant dynion, o achos 'does ar deulu Shonto ddim eisio, ar unrhyw gyfri, i'r drwg oedd arno fo ddechre ymosod ar blant dynion. A 'does gen inne ddim chwaith, ar ôl y'ch nabod chi'ch dau. Ond y mae galar trwm yng ngwlad y Tylwyth Teg am i ymddygiad y Llotyn Mawr ei ladd, a thrwy hynny achosi i farwolaeth ddechreu yn eu plith."

Balch iawn oedd Dic a Moses, fodd bynnag, o glywed am ddiwedd y Llotyn Mawr, er mwyn i ddyn y lleuad gael aros ar y ddaear, iddynt hwy fedru mwynhau ei gwmni'n awr ac eilwaith. A gobeithient na wnai dim darn o'r Llotyn Mawr wenwyno'r awyr, rhag iddynt hwy byth orfod ffoi i'r lleuad o ffordd neb tebyg iddo, neu gael eu chwythu yno ganddo. Ac eto, lled ofnai Dic ei fod wedi gweld amryw o blant dynion yn ddiweddar heb fod yn rhyw annhebyg iawn iddo.

Dechreuasant sôn ill tri am daith y bechgyn i'r lleuad, a'u troi'n gymylau er mwyn medru dyfod oddiyno, a'u gwaith yn hofran felly am dro uwchben y byd,—

"Welwch chi'r cymyle acw sy uwchben heno, Rhys Llwyd?" ebe Dic, ydech chi'n meddwl mai dynion yden nhw?

"Wn i ddim, yn siwr," ebe'r dyn,"ond mi ofynna i Shonto. Os rhai wedi bod yn ddynion, ac eisio'u troi'n ôl yden nhw, mae'n siwr y bydd llawer iawn o waith ail bobi a chledu ar bethe