Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/134

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sy gymint ar chwâl â'r rhai acw. Mae gen i ofn bod yn rhaid iddyn nhw aros fel y mae nhw, o achos mae troi pethe fel ene'n ddynion yn ormod o drafferth hyd yn oed i deulu Shonto." A gwelodd y bechgyn mai gwaith medrus a blinderus iawn yw gwneuthur dyn, gan fod hyd yn oed teulu Shonto mor amharod i ymosod ar y gwaith, â digon o ddefnydd wrth law.

Ar hyn gwelent ddau gysgod yn y pellter, rhyngddynt a'r awyr, tebyg i ddau ddyn, yn dyfod tuagatynt, ac un ohonynt yn honni wrth y llall, gan siglo cerdded, mai ef oedd meistr pawb oll, a bod pob rhinwedd yn cydgyfarfod ynddo. A chan ofni mai'r Llotyn Mawr ydoedd, neu'n fwy tebyg, rhywun o blant dynion wedi ei wenwyno gan ddarn ohono, rhedodd pob un adref am y cyntaf, rhag ofn mai gorfod mynd i'r lleuad yn ôl fyddai eu hanes, os digwyddai iddo ddyfod o hyd iddynt.