tu ôl iddynt,—fwy na'r lleuad y cychwynasant iddi. Ac yr oedd dychryn Moses yn fawr iawn, a'i alar am ei fod erioed wedi cychwyn o'r ddaear yn fwy. Buont yno am ysbaid yn troi, a throi, a throi, yn eu hunfan,—
"Wel," ebe Moses toc, â'i galon yn ei wddf, mi ddeydodd mam wrtha i lawer gwaith,—'Moses bach, machgen i, paid byth â mynd i unman na feder neb ddwad o hyd i ti,' a dyma fi rwan yn methu dwad o hyd i mi fy hun."
"Moses," ebe Dic, rydwi'n teimlo fel yr hen ddafad ddu pan oedd y bendro arni hi." Eithr er siarad â'i gilydd, ni chlywent ddim un gair. Gwelent wefusau ei gilydd yn symud, ond er eu dychryn, ni chlywent ei gilydd yn dywedyd dim. Daeth arswyd mawr iawn trostynt, yn fwy felly gan na allent fynd nac yn ôl nac ymlaen,- dim ond troi, a throi, a throi, yn eu hunfan o hyd, fel cwpan mewn dwfr.
Bob yn dipyn dechreuodd Dic fwynhau'r peth. Troent a throent, gan wynebu ei gilydd a throi eu cefnau at ei gilydd bob yn ail ym mhob tro. Bob tro yr wynebent ei gilydd chwarddai Dic, ond gwnâi Moses big dlawd fel pe am dorri i wylo, eithr cyn cael amser i hynny, troai drachefn nes bod ei gefn at Ddic, a chan y troai Dic hefyd yr oedd ei gefn yntau at gefn Moses yr un pryd. Yr oeddynt yn echryslon o oer hefyd. Yr oedd eu dillad fel dillad haearn amdanynt. Nid oeddynt yn anadlu,-collasant eu hanadl oll cyn