gadael y ddaear. Yr afalau lleuad a fwytasant a'u cadwai'n fyw. Pe gallasent anadlu rhewasai'r lleithter wrth eu ffroenau. Ond cewch weld eto nad oedd dim yno iddynt i'w anadlu.
Ac yno y buont am dymor hir yn troi a throi yn eu hunfan yn y gwagle. Fel y troent gwelent y ddwy leuad bob yn ail. Dechreuodd Moses wylo o ddifrif, ond rhewodd ei ddagrau'n gorn wrth ei lygaid. Mewn braw tynnodd y dagrau ymaith, ac edrychodd arnynt, ac er ei syndod ef a difyrrwch Dic, troai pelydr yr haul, a dywynnai drwy ei ddagrau, yn seithliw'r enfys ar ei ddwylo. A dyna ddifyrrwch, yng nghanol yr ofnau, oedd defnyddio'r dagrau fel gwydrau i edrych ar bopeth drwyddynt. Ac ymddangosai popeth drwyddynt yn llawer prydferthach nag o'r blaen.
"Diaist i," ebe Dic rhyngddo ag ef ei hun, mae'r ddwy leuad yma'n bropor yn saith o liwie. Mi ddeydodd yr hen Robert Tomos y crydd nos Sul fod ene saith nefoedd yn bod, ond feddylies i ddim am y peth ar y pryd. Oedd o yn ei le, tybed, a phob un ei lliw ei hun,—neu wedi bod yn edrych ar y lleuad drwy ei ddagre yr oedd o?"
Daliasant i droi a throi, a Dic yn dal i feddwl am y seithliw oedd i'r ddwy leuad drwy ddagrau Moses,—
"Moses," eb ef, synnwn i ddim nad rhyw fath o ddwy nefoedd a welwn ni drwy dy ddagre di." Ond ni chlywodd Moses yr un gair.