"Mynd i'r nefoedd yr yden ni'n sicr ddigon iti, Moses," eb ef wedyn, " ond yn bod ni wedi stopio iddyn nhw benderfynu ym mhrun i'n rhoi ni. Gobeithio y byddwn ni hefo'n gilydd, beth bynnag. Ychydig o'r bechgyn a feddyliodd mai'r nefoedd fydde'n diwedd ni, ynte?" Ni chlywodd Moses air, ac nid atebodd air, dim ond dal i droi a gwneuthur pig dlawd bob tro yr wynebai Dic ac yntau ei gilydd.
Yr oedd Dic mewn cryn betruster. Meddyliodd lawer gwaith cyn gadael y ddaear, pe medrai ddringo'r mynydd uchaf i'w ben, y byddai yn ymyl y sêr. Ond nid oedd y sêr yn nes atynt yma, nac yn ymddangos yn fwy, nag yr ymddangosent iddynt pan oeddynt ill dau ar wyneb y ddaear.
"Does dim posib ein bod ni wedi dwad ymhell iawn," ebe Dic, "dydi'r sêr ddim yn edrych yn ddim mwy na dim nes."
Ond dyna rywbeth yn chwyrnellu heibio iddynt. Gwelsant mai carreg fawr ydoedd, fel pe buasai un o greigiau'r ddaear wedi mynd am dro i'r gwagle, fel hwythau.
"Lle peryg sy yma," ebe Moses wrth Ddic, ond ni chlywodd Dic yr un gair.
"Mi fase'n well gen i fod ar y ddaear yn treio deyd adnod yn y Seiat, na bod yn troi a throsi yma'n methu â deyd dim byd, ond nid pawb wyddost, sy'n dwad ar draws pethe fel hyn," ebe Dic. Eithr ni chlywodd Moses air, dim ond gweld ei wefusau'n symud.