Buont gryn amser yn dyfod atynt eu hunain ar ôl y bendro a gawsant yn y gwagle. Syrthient bob gafael, bob tro y ceisient sefyll ar eu traed, fel y gwnewch chwithau wedi troi oddiamgylch yn chwyrn am beth amser. Wedi dyfod atynt eu hunain, o'r diwedd, yr oedd ganddynt gant a mil o gwestiynau i'w gofyn i'r dyn ynghylch helyntion y daith.
"Cyn i chi ddechre holi," ebe'r dyn, "diolchwch am eich bod chi wedi cyrraedd yn ddiogel. Pan ddois i ar eich traws chi yr oedd y Trobwll Mawr wedi dechre cael gafael ynoch."
"Trobwll Mawr," ebe Moses mewn braw, "be ydi hwnnw?"
"Mae'n anodd egluro," ebe'r dyn,—" a fuoch chi mewn trobwll neu lyn tro afon rywdro pan fyddai dau lif afon yn cydgyfarfod, ac yn ymladd â'i gilydd amdanoch, a chithe mewn peryg o gael eich sugno i mewn rhwng y ddau? Yr arwydd o'r peryg ydi eich bod chi'n dechre troi yn eich unfan yn y dŵr."
"Mi fum i unweth, yn afon y Ddôl, ac mi fu agos imi foddi," ebe Dic.
"Wel, roeddech chi yn y Trobwll Mawr rhwng dau fyd pan ddois i o hyd i chi, ond mi gawn esbonio'r peth eto," ebe dyn y lleuad,—"y cwbl a ddeyda i rwan ydi mai peth digon annifyr ydi rhyw droi rhwng dau fyd, a methu â setlo yn yr un, os nad peth digon peryglus hefyd."