Eisteddai'r dyn yn ei grwcwd, â'i ben ar un ochr, fel robin goch yn disgwyl am damaid. Gwybod yr oedd ef fod llu o gwestiynau'n blino'r bechgyn, ac arhosai'n amyneddgar amdanynt.
"Ond, ond, ond?" ebe Moses.
"Ond beth?" ebe'r dyn.
Yr oedd gan y bechgyn gymaint i'w ofyn nes methu â gwybod ymhle i ddechreu. Edrych yn syfrdanllyd a wnâi Moses ar y ddaear, a dywynnai i lawr arnynt fel lleuad.
"Ond, ond," ebe Dic, "pam y mae'r ddaear mor fechan?"
"Pell iawn ydi hi," ebe'r dyn. "Dyma'r byd yma a elwir yn lleuad, edrychwch fyd mor fawr ydio, ac eto, mae o mor bell o'r ddaear nes edrych ohoni mor fach â phêl droed."
"Ond, ond," ebe Dic wedyn, gan edrych yn ddyryslyd o'i amgylch, heb fedru dywedyd gair yn ychwaneg, a daliai Moses i edrych yn syfrdanllyd i fyny ar y ddaear o hyd, a chasglai dau ddeigryn i gonglau ei lygaid.
Dyna ruthr wedyn, ac un o'r cerryg mawr, fel creigiau mwyaf ein daear ni, yn disgyn â chyflymder ofnadwy ar wyneb y lleuad. Mor fawr oedd y garreg hon nes chwalu ohoni fryn helaeth y disgynnodd arno. Yr oedd fel pe'n glawio creigiau o'r awyr ar adegau, yna ysbeidiau heb ddim. Ond er mor fawr y rhuthr a'r chwalfa, ni ddigwyddodd cymaint â siffrwd yn unman i dorri ar y distawrwydd dychrynllyd.