ddau bron, bron hollti gan ysbryd wylo, a'r ddau hefyd am y goreu yn ceisio cadw'r gwir ynghylch hynny oddiwrth y llall. Canys peidiodd Moses â'i wylo di-obaith pan glywodd am stori "ffri-whilio " pelydr y ddaear a'r lleuad.
Gwelai'r dyn ei bod yn mynd yn ddrwg,— "Beth pe taswn i," eb ef, yn addo i chi ddangos rhyfeddode'r lleuad, a'u hesbonio nhw gore medra i, ac wedyn gadel i chi fynd adre os mynnwch chi?"
Llawenychodd y ddau trwyddynt, a neidiodd Moses ar ei draed fel pedfai am gychwyn y funud honno, ond dechreuodd Dic ryw dynnu'n ôl mewn hanner llawenydd, hanner ofn. Ac eb ef yn y man,—
'Does gen i ddim eisio mynd yn ôl."
"Pam?" ebe'r dyn, a Moses wedi ei syfrdanu.
"Am nad oes gen i ddim llais," eb ef. "Mi fydd y bechgyn a'r genethod yn chwerthin am fy mhen i 'n treio siarad, a dim byd yn dwad allan o ngheg i ond ymdumie. 'Does ene neb yma'n gwybod mod i 'rioed wedi bod yn wahanol. Cyfarfod â phobol fydd wedi 'nabod i 'n wahanol fase'n torri 'nghalon i, ac yn codi cwilydd arna i. Gan fod hi fel hyn, mae'n well gen i guddio 'nghwilydd yma."
Dechreuodd Moses wylo ar ei waethaf, oherwydd ni feddyliasai o'r blaen am yr agwedd yma ar bethau. A beth pedfai'r ferch fach a welodd yn ei freuddwyd yn canu "O! tyred yn ôl," yn