a chario'r peth i'r ymennydd. Felly, yn eich clustie chi y mae'r sŵn, ac nid yn unman arall. Mi ddychrynes inne y tro cynta imi glywed fy llais ar y ddaear, ar ôl arfer cymint efo distawrwydd y lleuad. Pan fo dyn yn siarad, yr hyn sy'n digwydd ydi,—mae o 'n gyrru awyr trwy ryw linynne sydd yn ei gorn gwddw, a'r llinynne hynny yn ysgwyd ac yn creu gwahanol fathe o donne neu gryndode yn yr awyr, a'r tonne hynny'n taro ar ddrym eich clustie, a dene chi. Dyma i chi, rwan, pe lluchiech chi garreg fach i Lyn y Cae Isa, mi gewch un math o don, ond pe lluchiech garreg fawr, mi gaech fath arall,—y mae maint pob ton yn dibynnu ar faint y garreg. Felly efo sŵn. Yr oedd y gwahanol donne ar y llyn yn creu tonne yn yr awyr uwch eu penne, a'r tonne hynny'n wahanol fel hwythe, ac felly'n gneud sŵn gwahanol. Ac y mae gwahanol fathe o donne yn yr awyr hefyd yn ôl cymeriad y llinyn y gwthiwch chi wynt yn ei erbyn yn eich cym gyddfe. Felly yn y glust y mae'r sŵn ac nid yn y corn gwddw. Ac mi ddaw symudiad llinynne yng nghorn gwddw un dyn yn sŵn yng nghlust dyn arall, trwy fod y llinynne wrth ysgwyd yn creu tonne yn yr awyr, a hwythe'n taro ar glust y dyn arall."
"Felly," ebe Dic, "lle na bydd awyr ni bydd sŵn?"
"I'r dim," ebe'r dyn, "nid ar eich cyrn gyddfe chi y mae'r bai am na fedrwch neud sŵn yma,