Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwl am gelwydd fel cig gwydd,—mae o 'a iawn ar dro, ond i chi ofalu peidio â'i ail dwymo fo; ond y mae deyd y gwir fel cig moch, dydio ddim mor flasus, ond y mae o 'n glynu fel gele wrthach chi drwy'r flwyddyn. Rwan ewch ymlaen efo'ch stori."

"Dene fo, felly," ebe'r dyn wedi codi ei galon. "A welsoch chi seren yn hedeg rywdro?"

"Do," ebe'r ddau.

"Be ydi seren yn hedeg?" eb ef.

"Wel, seren yn hedeg, debyg iawn," ebe Dic.

"'Nage," ebe'r dyn. Dyma sut y mae hi. Mae ene awyr o gwmpas y ddaear, fel y gwyddoch chi, ond dim o gwmpas y lleuad. Fuoch chi'n chwipio awyr yn gyflym rywdro?"

"Do," ebe'r ddau ynghyd.

Wedi i chi chwipio am dipyn, a theimlo'r chwip, mae hi'n boeth, on'd dydi hi?"

"Ydi," ebe hwythau.

Arwydd ydi hynny," eb ef, "fod awyr, wrth i chi ei daro'n sydyn, yn poethi pethe. Tarwch chi'r awyr efo rhywbeth yn gyflym, mae'r peth hwnnw'n cynhesu; tarwch yr awyr â fo'n gyflym iawn, â'n boeth; ond pe tarech chi'r awyr â fo'n gyflym iawn, iawn, iawn, iawn, â a'r dân. Yrwan at y cerryg mawr. Mae nhw'n taro'r ddaear yn gystal â'r lleuad. Ond y peth cynta y deuan' nhw ar ei draws o wrth geisio cyrraedd y ddaear ydi'r awyr o'i chwmpas hi. Mae hwnnw fel clôg am y ddaear. Ac mor gyflym y mae