Tudalen:Rhys Llwyd y Lleuad.djvu/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Moses," eb ef, edrych ar y rhein. Fedre ni ddim gneud cadwen ohonyn nhw, dywed?

A dyna ddechreu poeri'n wyllt a glynu'r cerryg yn un rhes yn ei gilydd. Wedi bod wrthi'n hir, edrychodd Dic ar bigyn mynydd uchel yn ymyl, a phigyn mynydd uchel arall gyferbyn ag ef. Daeth syniad newydd i'w ben,—

"Moses," eb ef, oes gen ti ddigon o boeri i ddal am ddeuddydd neu dri?"

Be sy'n bod?" ebe Moses.

Mi gei weld yn y man," eb ef.

A dyna lle buont yn cydio cerryg wrth ei gilydd am agos i wythnos o'n dyddie ni, nes bod ganddynt gadwyn gannoedd o lathenni o hyd. Ac mor dynn y glynai'r poer y cerryg ynghyd, fel na allai neb dorri'r gadwyn. Wedi ei gorffen ceisiasant ei chodi, a synasant weld ei bod mor ysgafn,—mor ysgafn â chadwyn o beli eira heb eu gwasgu'n dynn. Aethant i ymofyn help y dyn. Yna cariasant un pen iddi am frig y mynydd pigfain oedd yn eu hymyl. Ac wedi rhoi poer ar garreg flaenaf y gadwyn cydiasant hi wrth garreg arall iddi i amgylchu'r brig yn dynn â hi. Cariasant y pen arall a rhwymasant ef yr un fath am frig y mynydd pigfain arall. A dyna siglen ardderchog, yr oreu a welwyd gan neb erioed,—nid o bren i bren fel ar y ddaear, ond o ben mynydd i ben mynydd, a'i sigl yn rhyw hanner milltir o hyd. Ac ni bu erioed y fath siglo. Eisteddent arni bob yn ail,—un yn siglo a dau'n gwthio. Yna