Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/18

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ystad yn cynnwys 30,000 o erwau. O'r tir hwn yr oedd 3,000 o erwau dan drin- iaeth; yr oedd pedair ar bymtheg o fferm- ydd ar wahan; a 600 o erwau o dir gwrt- eithiedig ym meddiant tenantiaid. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd perllanau eang, a gwinllan yn cynnwys 18 o erwau. Yn goron ar y cyfan, yr oedd y pentref yn bedair onglog.

Canodd y Rappiaid yn iach i'r lle ar unwaith, ac ymsefydlasant mewn lle a alwyd ganddynt yn Economy, yn ymy! Pittsburg. Prin yr oeddynt wedi cefnu ar Harmony, pan y dechreuodd pobl heidio yno o bob man. A dyma'r camgymeriad ymarferol oyntaf. Nid oedd derbyn. wyneb na detholiad yn nerbyniad y trig- olion cyntaf; a derbyniwyd llawer o ddef- aid duon i mewn i'r praidd. Yn ddiau, byddai ysgrifenu hanes Harmony yn fwy dymunol gwaith pe derbyniasid sefydlwyr yn meddu enw da yn unig i'r sefydliad ar y cyntaf. Yn Hydref, 1825, yr oedd yno 900 o drigolion.<ref> Cymerwyd y rhan fwyaf o'r ffeithiau hyn o'r History of American Socialisms gan J. H. Noyes. Cafodd Noyes hwynt o'r casgliad a wnaethpwyd gan un A. J. Macdonald, o hanes sefydliadau cymdeithasol yn yr America. Yr oedd y Macdonald hwn yn ddisgybl i Robert Owen, a bu am yspaid yn trigiannu yn Harmony Newydd. Arfaethai gyhoeddi llyfr yn cynnwys yr hanes a gasglodd, eithr bu farw yn 1854, yn Efrog Newydd, heb ysgrifennu dim ond y Rhagymadrodd.<ref>