Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/25

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

wyr. Drwy ymryddhau oddiwrth y pethau hyn a "thrwy uno ein buddiannau gwahanol, drwy ddifodi cylchrediad arian bathedig, drwy gyfnewid ein cynhyrchion ar sail llafur am lafur cyfartal, drwy roddi'n cyfoeth i sicrhau manteision cyff- elyb i eraill, drwy roddi heibio yfed gwir- odydd, ni fyddwn mewn modd arbennig yn dwyn oddiamgylch ddiben pob llyw- odraeth ddoeth a phob dyn gwir oleu- edig." Gwyddai Owen yn amgen na disgwyl am lwyddiant buan, oherwydd yr anwybodaeth a flynnai ymhlith y trigolion. Yn mis Awst geilw hwynt oll ynghyd i'w hargyhoeddi o'r buddioldeb o gyfarfod deirgwaith yn wythnosol i'r diben o dderbyn addysg. Gwnaed hynny. am chwech wythnos, eithr oherwydd diffyg dyddordeb ar y naill law, ac i afiechyd oddiweddyd Owen ar y llaw arall, bu i'r ysgogiad farw.

Ar y 25ain o Awst etholwyd tri o "dictators," a diddymwyd yr holl swydd- an oeddynt yn bod cynt. Eithr ni thyciodd hyn i wrthweithio'r drygau oeddynt yn prysur gynhyddu. Ar y 17eg o Fedi bu yn angenrheidiol i alw cyfarfod i ystyried rhyw gynllun i ddiwygio y gym- deithas drwyddi, ac i wella cyflwr y bobl.