Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/26

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Nid aeth Owen i'r cyfarfod hwn, anfon- odd iddo lythyr yn cynnyg cychwyn Cym- uniaeth gyda phawb pwy bynnag fyddai'n barod i ymuno a suddo eu holl eiddo yn yr anturiaeth. Yr oedd llywodraeth y cyfryw gymuniaeth i fod yn nwylaw Owen, a phum gwr o'i ddewisiad ef a'r trefniad hwn i barhau am bum mlynedd. Eithr, erbyn hyn, yr oedd yr anfoddlon- rwydd a'r ansicrwydd wedi myned yn rhy bell i'w gwella... Ymadawodd llawer o'r trigolion. Yr oedd yn amlwg fod dech- reu y diwedd wedi dod.

Nid oedd Owen yn barod i addef hynny, er yr ymddengys oddiwrth ei wa- harddiad i ddefnyddio gwirodydd yn Rhagfyr ei fod yn gweled effeithiau niw- eidiol yr arferiad o yfed ar y sefydliad. Yn yr Ionawr canlynol dechreuodd yntau ddigalonni. Gwerthai dir i bersonau un- igol, ac yn fuan aeth y rhan fwyaf o'r dref yn eiddo personol. Yn y Gazette ar y 31ain o Ionawr ymddangosodd llythyr yn cwyno oherwydd fod addysg yn gwneyd lleied o gynnydd, a bod y llafur mor galed, a'r tâl am dano yn ddim amgen na dwfr oer a bwyd sal. Yr oedd pethau yn cyf- lym ddisgyn i gyflwr trefydd ereill. Cych- wynwyd ystordai anibynnol, codwyd sign