Tudalen:Robert Owen, Apostol Llafur, Cyf II.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lywodraeth Mexico gan Rocafuerte; i Bolivar, gan gennad Columbia yn Lloegr; ac i Negesydd y Talaethau ym Mexico, hwyliodd o Falmouth am Ddeheudir America. Cafodd fordaith gysurus. Eithr drwyddi ymroddodd i lafur diwyd. Yr oedd wedi addaw cyfarfod y Parchedig Alexander Campell mewn dadl yn Cincinnati ar brawfion Cristionogaeth yn yr Ebrill dilynol, a rhaid ydoedd parotoi yn ofalus ar ei chyfer; ac yn ystod y fordaith tynnodd allan gyfres o ddeddfau gwladol cyson â deddfau y natur ddynol.[1]

Y mae un peth yn werth ei gofnodi ynglyn a'r fordaith. Pan y cyrhaeddodd y llong San Domingo, prif ddinas ynys Hayti, sylwodd Owen fod poblogaeth y lle —pobl dduon oll—wedi eu gwisgo'n well, yn lanach, yn fwy trefnus, yn fwy tyner a moesgar, yn fwy diofal ac yn well eu hamgylchiadau, na gweithwyr gwledydd mwy gwaraidd. Yr oedd y bobl hyn yn rhydd. Ond pan ddaeth i Jamaica, lle yr oedd y boblogaeth ddu yn gaethion, gwelodd yno bron yr un peth. Yr oedd yn nodweddiadol o Owen iddo dynnu casgliad terfynol ar unwaith oddiwrth yr hyn a welodd.

  1. Co-operative Magazine, iii. 187.