nwydd, ydoedd gwerth y peth. Yr oedd gwerth y nwydd yn cael ei benderfynu gan briswyr cyfarwydd, barn y rhai parthed yr oriau a gymerai gweithwyr cyffredin i wneyd unrhyw beth, oedd yn derfynol. Yr oedd y treuliau yn cael eu cyfarfod drwy drethu'r cyfnewidiad yn ol 8 y cant.
Ar ei gyfrifoldeb ei hun yr agorodd Owen y gyfnewidfa; ond gwelai na byddai i'r peth ledaenu ymhell oddieithr i'r Llywodraeth ei gymeryd i fyny. Yn 1834, anfonodd ddeiseb i'r Llywodraeth ar iddynt agor cyfnewidfeydd cyffelyb drwy yr holl wlad.
Fel pob un o anturiaethau Owen, dechreuodd y gyfnewidfa ei gyrfa yn llewyrchus iawn. Yr oedd Owen ei hyn yn llawn obaith parthed effeithiau'r sefydliad. Yr oedd yn bryd bellach i'r cyfoethogion edrych ati. "Y mae y darganfyddiad o nodau llafur," meddai, "yn fwy o bwys na holl weithydd mŵn Periw a Mexico, gan y par yn fuan i'r gweithwyr fod yn anibynnol. Ac mewn gwirionedd, yr oedd rhagolwg y byddai i hynny gymeryd lle. Yr oedd yr heol mor llawn fel nas gellid teithio ar hyd-ddi. Aeth y deposits i fyny i 38,772 mewn wythnos, ac yr oedd y symudiad wedi cydio mor gyffredinol yn