Tudalen:Roosevelt.djvu/16

Gwirwyd y dudalen hon

dymchweliad 1929. Arbenigrwydd mawr Roosevelt ydyw iddo sylweddoli'n gyflym ddyfned ydoedd y cyfnewidiadau hyn a'r angen am fesurau trwyadl newydd i'w cyfarfod.

4. Y FARGEN NEWYDD.

Cyn y gellir canfod ystyr y Fargen Newydd y mae'n rhaid deall y cyfnewidiadau a ddaeth dros y gyfundrefn economaidd yn America. Bu adeg pan adwaenid America fel gwlad y cyfleusterau euraid. Rhoddwyd y garreg rwystr gyntaf ar y ffordd pan gaewyd y ffin tua diwedd y ganrif ddiwethaf. Hyd nes y gwnaed hyn gallai'r llywodraeth agor llwybr ymwared o ddyryswch economaidd trwy gynnig rhoddion o dir rhydd. Cysurwyd y dyn cyffredin fod cyfle iddo yntau yn y Gorllewin. Ac yn ddiweddarach, pan ehangai ffiniau economaidd America'n gyflym, gallai unrhyw ŵr o allu ac ynni gredu bod ganddo cystal siawns a'r un i ennill cyfoeth ac ond odid i grynhoi ffortiwn. Wedi'r rhyfel diwethaf, ymddangosai fel petai llwyddiant materol yn rhan sefydlog o'i bywyd, ond yn 1929 wele ddymchweliad mor sydyn llwyr nes peri i'r Americanwr cyffredin weled yn glir fod y ffin economaidd hithau wedi ei chau am byth ac nad oedd rhagolygon uwch i'r gweithiwr a'i blant na pharhau i ennill ychydig o gyflog drwy gydol oes—a hynny ar yr amod bod ganddo waith ar ei gyfer.

Nod amgen y dirwasgiad hwn, o'i gymharu ag argyfyngau economaidd blaenorol, oedd ei lwyredd. Nid cyfyngedig mohono nac i ardal na diwydiant. Dirwasgiad gwlad-lydan ydoedd, a gwelwyd rhwng deuddeg a phymtheg miliwn o weithwyr yn ddiwaith mewn gwlad a rifai'i phoblogaeth tua