Tudalen:Sadie.pdf/3

Gwirwyd y dudalen hon

ed llwybrau'r gwyll a'r cyfnos. Ceir hi mewn cyfathrach â'r gwyntoedd gauafol, y gwyntoedd hiraethus;' a thramwya drwy goedwigoedd lle bo'r dail wedi erino, ac unigedd yn sibrwd ei gyfrinion cudd. Ac er fod 'Sadie' yn byw. ar ymylon y brifddinas, yr oedd ei chalon hithau, fel yr eiddo Ceiriog:—

'Yn y mynydd, gyda'r grug.'

Ac y mae y mynydd, y rhaiadr, a'r nentydd grisialog, yn cael eu delweddu yn ei chaniadau. Dywedir y byddai yn arfer ymweled â Chymru,' er nad ydyw y manau bu' yn cael eu crybwyll o gwbl. Diau iddi weled y Wyddfa; a dichon ei bod, yn nyddiau ei maboed, wedi bod yn dringo ei chopa gwyn,

A chwareu ar ei choryn.'

Y mae ganddi un dernyn lled hynod, o'r enw Snowdon and Vesuvius— math o ymgom rhwng y ddau fynydd! Nid oeddynt wedi gweled eu gilydd erioed, ond y mae y naill yn cyfarch y llall o'r pellder. Gellid meddwl fod y Wyddfa braidd yn eiddigedus wrth y llosg-fynydd. Teimlai hi fod y bobl oedd yn byw o'i chwmpas yn ddiystyr o honi, a charasai gael benthyg lava Vesuvius i ddysgu gwers iddynt ar ostyngeiddrwydd! Ond, y mae'r llosg-fynydd yn ymresymu â'r Wyddfa, ac yn galw ei sylw at yr alanas a barai ei ffrwydriadau ar fywydau plant dynion. Gobeithio yr ydym fod Vesuvius wedi argyhoeddi y Wyddfa o'i chamsyniad; ac yr erys, hyd ddydd adfail y cread, yn 'Eryri Wen.'