Tudalen:Salm i Famon a Marwnad Grey.djvu/20

Gwirwyd y dudalen hon

Cafwyd athrawiaeth gyfiawn—
Seinied pob sant "pawb ei siawns!"
Rhyfeddod o adnod yw,
Athrawiaeth odiaeth ydyw.

Athrawiaeth iachus, a grymusaf
Er dwyn y gweithiwr dan iau gaethaf,
A thwyllo llibin werin araf
O ffrwyth ei llafur a'i chur chwerwaf,—
Canys dyna'r hawddgaraf—alluoedd
A ddwg ei filoedd i gyfalaf.

O dduw cyfoeth, doeth wyt ti;
On'd oedd elwach d'addoli?
Ac nid duw dig, eiddig wyd;
Duw odiaeth haelfryd ydwyd.
Yn lle cenfigen y Llall,
Ti ni ddori Dduw arall.
Dywaid y Llall heb dewi—
"Nid cyson Mamon â Mi":
Tithau, "Y gorau i gyd,
Yn ddifai, gwnewch o'r ddeufyd."
O dduw gwych, bonheddig wyt,
Caredig—gorau ydwyt.

Onid hawdd it ei oddef,
A gwenhieithio iddo Ef?
Ac onid hoff gennyt ti
I ddyliaid ei addoli?
Da odiaeth i'th benaethiaid
Weled coel y taeog haid;