Gwirwyd y dudalen hon
Gado'r ffydd i gyd i'r ffŵl,
A da fydd i'r difeddwl;
A bryd calon dynion doeth,
Ti a'i cefaist, duw cyfoeth.
Pa raid malio fod Prydain
Ar y Sul, â syberw sain,
Yn rhyw ffugiol addoli
Y Gelyn sy'n d'erlyn di?
Pob ffalster rhodder iddo,-neu salmau
Ac emynau mwynion;
Beth yw i ti byth eu tôn?
Gwelaist pwy piau'r galon.
A thi dy hun, ddoeth dduw da,
Hoff gennyt y ffug yna;
Byddi'n ei ffugiol foli
Yn dy deg adnodau di:
"Pob un drosto'i hun," yna-
Ba beth?" Duw dros bawb! " A ha!
Ni wybu llofrudd Abel
Mo'r ffordd i'w glymu mor ffel.
O mor ddoeth, a choeth, a chall,
D'eiriau am y Duw arall;
Nid ffrochi gan genfigen,
Na, "Duw dros bawb,"-Da dros ben.
Llwyr hawdd y gellir addef,
Wyt gryfach, gallach nag Ef.