Tudalen:Salm i Famon a Marwnad Grey.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

Be gwneid i bob gweinidog—yn ei dŷ
Fod o'r da'n gyfrannog,
Ystyr pwy o'i holl wŷr llog
A ai fyth yn gyfoethog!

Nid dyna mo ddull Mamon;—y dull yw
Bod llawer yn dlodion,
I'r chydig etholedigion—fyw'n wych,
Yn uchel degwch oludogion.

Ond Iesu, ceisio lluoedd
I wych stad mawrhad yr oedd;
Dyfod a wnaeth i'w codi
O dlodi i oludoedd.

I'w rhoi'n fonheddig ddigoll
Ei dda'i Hun a wariodd oll.

Ond pa ryw ddrud oludoedd,
Pa ryw eiddo iddo oedd?
Iddo nid oedd ond ei wan,
Ei wael anadl ei Hunan.

A'r Gŵr ei Hun ar y groes,—ynghanol
Ing enaid a chwerwloes,
Yn ddewr a rhydd, wir, y rhoes
Ei hoedl, anadl ei einioes.

Yr eiddo oll a roddes,
Ie'n hael iawn; ond pa les?
Wedi'i ddiarbed ddirboen,
I ba beth y bu ei boen?