Tudalen:Salm i Famon a Marwnad Grey.djvu/5

Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

FEL y dynesai'r flwyddyn 1900, a gwawr yr ugeinfed can mlynedd o oed Crist, fe ddaeth gwawr deffro llenyddol mwyaf ein hanes.

Yr oedd Syr John Morris-Jones mor gyfrifol â neb am yr ymysgwyd hwnnw. Yr oedd cloch y "Daeth â cheinder a rheswm a syberwyd yn ôl i Gymru," meddai'r Athro W. J. Gruffydd, ac ail greodd wareiddiad a fu'n grud i'r dadeni rhyfeddaf a welodd ein hiaith. . . . Yn y pen draw, dawn cymeriad oedd ei ddawn; pan ychwanegodd Rhagluniaeth ddawn athrylith at hynny, a phan osododd ef i oesi ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwnaeth ef yn anocheladwy yn grewr y cyfnod newydd" (Y Llenor, Cyf. VIII, Rhif 2).

Fe ddaeth Syr John, yn ieuanc, dan ddylanwad Syr John Rhys, a dechrau astudio'r iaith Gymraeg yn wyddonol. Canlyniad hynny fu cyhoeddi rhyfel yn erbyn y llacrwydd trystfawr, anghelfydd, oedd yn nodweddu'r rhan fwyaf o gynnyrch llenyddol yr oes, a dodi pwys ar feddwl cain ac arddull ofalus, a mynd yn ôl am batrymau at ein hen feirdd clasurol.

Yr oedd Syr John ei hun yn fardd, ac yn ôl barn un sylwedydd, fe roes ei awdl ef, Salm i Famon, ac awdl Mr. T. Gwynn Jones, Ymadawiad Arthur, le i gredu mai prin gychwyn ar ei hoes aur yr oedd barddoniaeth Cymru.