Tudalen:Salm i Famon a Marwnad Grey.djvu/6

Gwirwyd y dudalen hon

Yn ei ragair i'w "Ganiadau" (1907) dywed Syr John: Ysgrifennwyd Awdl Famon yn ddarnau digyswllt tua'r flwyddyn 1893 neu 1894; yr oeddwn yn arofun iddi fod yn hwy o lawer, ond wedi ei rhoi heibio am amser, mi dybiais ei bod yn ddigon maith i watwargerdd o'r fath, ac mi lenwais y bylchau, gan ei gadael yr awdl o dair rhan fel y'i gelwir."

Ochr yn ochr â'r gweddnewid a ddaeth i'r mesurau caeth, yr oedd deffro telynegol yn digwydd, yn y mesurau rhydd. Y mae Telynegion Mr. W. J. Gruffydd a Mr. Silyn Roberts (1900) yn garreg filltir. Yma eto mawr oedd dylanwad Syr John, gan ei fod cyn hyn wedi canu telynegion cain a fuasai'n batrymau teilwng i neb, ac wedi cyfieithu'n wych delynegion yr Almaenwyr Heine a thramorwyr eraill. Yn 1911 y cyhoeddodd ei gyfieithiad o Elegy enwog Thomas Gray.

Yn Llandrygarn, Môn, y ganwyd Syr John, yn 1864. Bu'n dysgu yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, a Choleg Iesu, Rhydychen. Fe'i penodwyd yn athro Cymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn 1895. Fe gyfyngodd ei ymdrechion am ran olaf ei oes i waith ysgolheigaidd. Beirniadai awdlau'r gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol bron bob blwyddyn. Bu farw yn 1929.