yn y flwyddyn, a gallu hefyd i wneud dynion a welo efe 'n dda yn arglwyddi. Pa faint o drafferth sydd ar y brenin yn gwneud dyn yn arglwydd; a pha faint well ydyw dyn wedi ei wneud yn arglwydd; a pha faint ydyw'r bobl gyffredin well er cael arglwyddi arnynt, sydd beth mor amlwg na raid i mi ddweud dim yn yr achos. Mae'r bobl sydd yn cael eu galw yn arglwyddi yn cael tŷ neu neuadd i ddadlu ar achosion y deyrnas iddynt eu hunain; ac y mae llawer ohonynt mewn llefydd uchel tan y brenin ac yn byw ar y trethi yr ydys yn eu codi ar lo, neu ganhwyllau, neu oleuni dydd, neu ryw beth arall a fo'n bur angenrheidiol i ddyn tlawd fyw yn y byd. Er bod gan yr arglwyddi lawer o diroedd, ac o dai, eu hunain, nid ydynt ddim yn esmwyth nes y caffont ddyfod i'r cyfrwy at yr esgobion, a'r bobl gyffredin fel hen geffyl yn myned i'r allt tan bwn digydwybod, a hwythau'n pynorio ychwaneg arno ef o hyd hyd oni bo asgwrn ei gefn ef ymron torri. Ond mi fydd ambell hen farch go galonnog, pan roddir mwy ar ei gefn ef nag a fedr ef gludo, yn taflu ei berchennog a'r pwn i'r baw, ac yn rhedeg i ffwrdd. Mae'n debygol mai gweled rhyw anifail felly yn gwrthod ei gam a wnaeth pobl Ffrainc.
Nid ydyw'r goron ddim ond rhyw degan a debygir ei fod ar ben y brenin; ac yr ydys yn rhoddi'r tegan yma ar ben dyn a fyddir yn amcanu gwneuthur brenin ohono. Felly pan roddir y tegan yma ar ben dyn, ac i'r esgobion wneuthur araith wrth ei ben ef, a gwneud iddo dyngu rhyw ychydig (ac yr ydwyf fi yn meddwl y bydd rhai'n rhegi hefyd ar yr achos) mae'r dyn, trwy ryw rinwedd ryfeddol o'r twyll i ni ag sydd yn y tegan a elwir y goron, ac yn yr araith mae'r esgobion