Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/17

Gwirwyd y dudalen hon

farnwyr yn tarddu allan ohoni. Mae gan y brenin allu i wneuthur rhyfel â'r deyrnas a fynno, heb na chennad na chyngor gan undyn; ac i wneuthur heddwch pan welo ef yn dda ei hun. Geill hefyd wneuthur undeb â'r deyrnas a fynno, yn y modd y gwelo ef yn dda ei hun. Mae ganddo awdurdod i roi allan gyhoeddiad am godi dynion, arfau, ac arian i gynnal ac i gynorthwyo pobl isel radd, i ryfela, ac i saethu at bennau ei gilydd, ac i ddarnio ac i ladd ei gilydd tra gwelo ef yn dda. Geill alw ar y parliament, neu'r senedd, ynghyd yr amser a fynno, a'u chwalu hwynt yr amser a fynno, a'u symud hwy i'r lle y mynno, a gwneuthur iddynt wneud agos fel y mynno, oherwydd mi eill wrthod rhoddi ei law wrth y weithred a welir yn y Senedd-dŷ cyffredin; ac efe ei hun yn unig sydd i ddewis ei gadbeniaid ar for a thir; yn ei law ef mae rhoddi enwau anrhydeddus i foneddigion Lloegr a Chymru. Mi eill hefyd ollwng y lleidr a'r ysbeiliwr mwyaf digywilydd yn rhydd, wedi cael ei farnu i'w grogi wrth gyfraith y tir. Pob eiddo a fyddo ar gyfrgoll heb un perchennog, sydd yn disgyn i'r brenin; ac efe biau holl bysgod gorau'r afonydd, ac ehediaid yr awyr, a llawer o bethau eraill mwy nag a fedr ef ddal, na ninnau gofio.

Mae'r rheini a wnaeth y brenin yn dweud ei fod ef yn rasusol raglaw i Dduw yma ar y ddaear, a'i fod ef yn gwbl berffaith, ac na ddichon iddo wneud dim o'i le. Mae'r brenin yn nesaf peth at anfarwoldeb, oherwydd fod y gallu sydd yn ei law ef wedi ei wneud i fyw am byth; ac y mae ganddo lawer o alluoedd eraill yn ei law rhy faith i'w henwi ar yr amser hwn.