y darfu ein teidiau newid eu henwau i gael i'r bobl gyffredin ollwng eu gweithredoedd cigyddlyd. hwy'n angof. Ac er iddo ddweud megis yn brawf o hynny fod lladron ac ysbeilwyr yn newid eu henwau yn y dyddiau yma, ac er eu bod hwy felly, nid ydyw'r bobl ddim yn coelio; ac os ydynt yn coelio, mae arnynt fwy o ofn, ac oherwydd hynny maent yn rhoi mwy parch i arglwydd nag i ddyn arall.
"Ond, o wychol a dewrion arglwyddi, dyma aelodau'r senedd gyffredin wedi gyrru i ni weithred fwyaf peryglus i'n hawdurdod ni ag a fu erioed; hynny yw, mae arnynt eisiau i ni dalu pum cant o bunnau am gael ein galw yn arglwyddi; a'r pwnc ydyw, pan un orau i ni ai talu pum cant o bunnau ai colli'r anrhydedd o fod yn arglwyddi? Mae'n ddiamau mai rhyw walch cyfrwys sydd ag eisiau lle arno, a ddaeth â'r pwnc rhyfygus yma ymlaen yn y senedd gyffredin; mae'n resyn bod yr un o aelodau y tŷ hwnnw yn byw ar ei eiddo ei hunan, ac mor hwylus ydyw'r rhai sydd mewn llefydd, i siarad neu dewi i'n boddio ni, am roi y llefydd hynny iddynt. Ond rhag blino arnoch yn rhagor ar y pwnc rhyfygus yma, chwenychwn ofyn pwy sydd â gallu yn ei law i wneud i ni dalu pum cant yn y flwyddyn neu golli ein henwau cedyrn? A oes rhyw ddyn. neu ddynion a fedr wneud i ni dalu y naill na cholli'r llall?"
Yma y byddai'r lleill yn ateb, "Nac oes un!!! nac oes un!!! enwog arglwydd."
Gan hynny mi allwn wneuthur ein dewis, ac i ddangos i'r senedd gyffredin ac i'r byd mai ni biau'r blaen, ni wnawn na thalu pum cant o bunnau na cholli ein henwau cedyrn chwaith; ac os