Cymraeg, fel y gallont gael ychydig o wybodaeth pa fodd i ymddwyn yma ar y ddaear, ac i ymbaratoi erbyn myned oddi yma.
Pan fo cyfraith yn cael ei gwneud i godi arian i gadw pobl am gymryd arnynt hyrddu rhyw grefydd i'r byd mae'n eglur ddigon mai arian ydyw'r erthygl gyntaf yn y grefydd honno. Ni fu erioed, ac nid oes yr awr hon, ac ni fydd byth, na phab, na brenin, nac esgob, nag offeiriedyn a fedrant sefydlu rhyw grefydd i barhau am byth, nag i ddyfod a dynolryw i'r un feddwl, er iddynt (i ddangos gwychder eu crefydd eu hunain) ladd a llosgi, a thynnu eu cydgreaduriaid yn aelodau i geisio gwneuthur hynny; a chwedi iddynt fethu, darfynt gymryd ffordd weddeiddiach, a gadael i bawb gael rhyddid cydwybod i addoli wrth eu meddyliau eu hunain.
Ond yn amser y diwygiad, mi gymerodd yr esgobion hynod o ofal rhag diwygio'r gyfraith a oedd mewn grym i godi tâl iddynt hwy oddi ar bob dull o grefyddwyr yn y deyrnas; a thrwy nerth y gyfraith uchod mae esgobion ac offeiriadau yn cael lle i lechu yng nghysgod darnau o hen furiau gwaedlyd eglwys Rhufain; pa rai y mae mellt cyfiawnder a tharanau arfau rhyddid yn barod i ddryllio eu sylfaenau hwy, ac i'w chwalu yn chwilfriw.
Ond i ddal ychydig sylw ymhellach ar grefyddau enwedigol. Os cymerwch chwi farn pob un am ei grefydd ei hun, mae pob crefydd yn ei lle; ond os cymerwch chwi farn y naill grefydd am y llall, nid oes yr un grefydd yn ei lle; felly, yn ôl barn crefyddwyr am danynt eu hunain, mae crefyddau yr holl fyd yn eu lle; ac yn ôl barn y naill am y llall nid oes un grefydd yn y byd yn ei lle.