Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

ac yntau yn methu cytuno, ac oherwydd hynny yn rhyfela a'i gilydd, ac yn gyrru'r Saeson a'r Ffrancod yn benben i ladd ac i ysbeilio ei gilydd, a hwythau gartref ar glysdogau, un yn Paris a'r llall yn Llundain, yn darllen y newyddion, heb na pherygl na chynnwrf yn agos atynt. Os clywai brenin un deyrnas fod naw mil o'i wŷr ef wedi eu lladd wrth ladd deng mil o'r lleill, dyna fuddugoliaeth hynod, a newydd da iawn, ac achos goleuo ffenestri, a bloeddio a chanu clychau, a saethu am dridiau, a'r holl orfoledd yma oherwydd bod pedair mil ar bymtheg o'n cyd-greaduriaid gwedi lladd a darnio ei gilydd mewn gwaed oer; a hynny i foddio rhyw ychydig nifer o bobl ffroenuchel, feilchion, er mwyn iddynt hwy gael cadw mewn llefydd ac awdurdod; a'r esgobion a'r offeiriaid yn cymryd arnynt weddio am lwyddiant a rhwydeb i'r naill deyrnas dorri cyrn gyddfau, a lladd, a llosgi pobl y deyrnas arall. Dyna asgell o rith crefydd, yn ddigon di-reswm, i wneud i waed dyn a rhyw ychydig o deimlad ynddo, redeg yn oer yn ei wythiennau.

Trethi

Mae rhyfel hefyd yn llwytho pob teyrnas â threthi diddiben, ac y mae trethi trymion yn magu mwy O ddrwg mewn teyrnas nag a ddichon un dyn feddwl amdano. Mae trethi trymion yn gyrru yr hen i'r gweithdy, neu ar y plwyf, ac yn gyrru'r ieuanc i ladrata, ac yn gwasgu ar bobl sydd yn gweithio am eu bara, a hynny yn gwneud hwy yn groesion, ac yn sarrug; a'r croesder hwnnw yn magu llid rhwng cymdogion; a phlant llawer o bobl a fo'n trin tir heb ond ychydig amdanynt, ac heb ddim dysg i gael arian i dalu'r dreth; a'r arian rheini yn myned i gadw pobl i ladd ei gilydd; neu i gadw rhyw ddyn penchwiban, a chwech neu saith o butein-