Tudalen:Seren Tan Gwmwl.djvu/33

Gwirwyd y dudalen hon

iaid. Mi fyddai'n anhawdd gan ddyn yng Nghymru goelio fod cymaint o ferched drwg yn cerdded heolydd Llundain ag y sydd; ac mi fyddai'n anhawdd gan ddyn yn Llundain, ac heb fod erioed oddi yno goelio fod cymaint o bobl ieuanc iachus yn cerdded o ddrws i ddrws i grefu eu bara yng Nghymru. Gadewch i ni ddal sylw byr, pa beth ydyw'r achos o hyn.

Yn gyntaf, pur anaml mae'r un ddynes yn troi ar y dref, neu'n ddrwg heb gael rhyw flinder mawr yn y cychwyn; un ai mi fydd ei gŵr wedi ei gadael hi, neu mi fydd swyddogion y brenin, wedi cymryd ei gŵr hi heb ei waethaf, fel myned ag eidion i'w ladd, a gadael y wraig a'r plant i newynu ac i dorri eu calonnau ar ei ôl ef; waith arall mi fydd cariad merch ieuanc wedi torri amod neu addewid â hi; hithau oherwydd hynny, mewn blinder meddwl, yn troi i yfed, ac i ddibrisio ei hun, ac yn myned yn ddynes ddrwg. Ond am unwaith mae hynny yn digwydd yn y wlad, mae e'n digwydd ganwaith yn Llundain, oherwydd yn y wlad, mi fydd carennydd y dyn a'r ddynes a fo'n cadw cwmpeini yn dynabod eu gilydd; felly os digwydd i linyn ffedog y ferch fyned yn rhy fyr, mi fydd eu carennydd yn gwneud iddynt briodi rhag cywilydd; ac OS gweinidogion a fyddant, ni ddichon iddynt fagu plant heb fod yn bwysau ar rai eraill, a rheini'n cael digon o waith talu trethi, a dilladu eu plant eu hunain. Felly rhaid i blant gweinidogion fyned efo eu mam i grefu eu bara, a hynny o achos melltith rhyfel a gorthrymder trethi. Pan oedd y trethi yn isel yr oedd y farchnad yn isel; a phan fo bara yn weddol o rad mi fydd