bobl ddanfon eu cwyn i'r senedd, neu fyned at swyddogion y brenin, a chwyno eu hunain yn erbyn rhywbeth a fo'n eu blino; ac er i ryw nifer o bobl gychwyn i ryw dref ar fedr rhoddi eu cwyn yn bwyllog, ac yn amyneddgar ger bron swyddogion y brenin, ond cyn yr elont i ben eu taith, mi ddaw rhyw bobl anwybodus a direolaeth i'w plith, ac a ddechreuant amharchu'r ustusiaid, ac a ymddygant yn anweddaidd, fel ag y bu'n ddiweddar yn rhai mannau yng Nghymru; felly gwell yw dioddef cam nag amharchu swyddogion i geisio uniondeb, pa rai nad oes yn eu gallu wneuthur ond ychydig heb gennad y senedd. Y rhan nesaf o'r gwaith yma a elwir Toriad y Dydd, tan obeithio y rhydd fwy o oleuni na Seren tan Gwmwl. Y pryd hyn nid oes gennyf ond dymuned blinder cydwybod ac aflonyddwch i orthrymwyr trawsion; llwyddiant a dedwyddwch i ewyllyswyr da eu cydgreaduriaid; undeb a heddwch i ddynolryw; cyfiawnder a rhyddid i'r byd.